Lleoliad Eisteddfod 2015 - beth dych chi'n ei feddwl?
Eich barnau chi am safle Eisteddfod Maldwyn
"Mae'n faes eang, braf, fflat, mae'r maes carafanau'n fendigedig - popeth yn wych. Yr unig beth fyddwn i yn gweud, falle mae pobl ifanc yn cwyno amdano yw bod dim we!"
Helen o Lanelli
Mae o'n lliwgar ofnadwy. Mae o'n teimlo mwy fel gwyl teuluol blwyddyn yma. Mae popeth mor agos - does dim ffordd i gwyno."
Mari-elen, Caerdydd
"Mae'r lleoliad mor brydferth, mae'r mynyddoedd a'r coed o gwmpas ni... Mae rhyw deimlad bach gwahanol eleni."
Elan, Caerdydd
"Dyn ni wedi bod yn symud o faes B i'r maes carafanau. Dyw e ddim cweit yn teimlo "Eisteddfod" lle mae pob dim yn bell o'i gilydd - ond mae'n teimlo mwy cartrefol."
Huw, Ynys Môn
"Mae'n teimlo fel rhyw fath o Glastonbury Cymraeg... Mae un cwm mawr o gwmpas ni, ac ni sydd yn y canol yng ngynesrwydd yr Eisteddfod."
Manon, Caerdydd"Mae'r maes yn gyfleus iawn... Mae llawer o symud o gwmpas. Sdim byd negyddol fedra i ddweud."
Dafydd, Bangor